Cyflwyniad

Mae'r prawf hwn yn eich helpu chi i ddarganfod y sgiliau dinasyddiaeth fyd-eang sydd gennych chi, ac ar ba lefel. Mae'r prawf yn cymryd tua 30 munud i'w gwblhau ond yn amlwg, mae hyn yn dibynnu ar lefel eich sgiliau a faint o enghreifftiau rydych chi'n eu cwblhau.

Ar ôl gofyn ychydig o gwestiynau personol, mae'r prawf yn mesur pob sgil trwy gyfres o flychau ticio; rydych yn syml, yn dewis y blwch sydd fwyaf perthnasol i chi. Hunanasesiad ydy hwn, felly bydd y canlyniadau ond yn ddefnyddiol os ydych chi’n cwblhau'r prawf yn onest.

Mae'r prawf yn rhoi'r opsiwn i chi gyflwyno esiamplau. Gallwch benderfynu peidio â rhoi esiamplau, ond bydd y canlyniadau yn fwy defnyddiol i chi os fyddwch chi'n cwblhau'r esiamplau oherwydd:

  • Bydd eich canlyniadau yn cysylltu'r sgiliau sydd gennych chi gydag esiamplau - gallwch gopïo a gludo'r rhain yn syth ar ffurflenni cais neu ar eich CV
  • Mae edrych ar enghreifftiau yn eich helpu chi i ateb y cwestiynau
  • Mae'r enghreifftiau'n profi eich bod chi wedi cyrraedd y lefel sgiliau

Ar ôl cwblhau'r prawf, fe fyddwch chi'n derbyn adroddiad ar adborth gyda'ch canlyniadau a'r enghreifftiau..

Sut fyddwn ni’n defnyddio ac yn storio eich data

Bydd gan bob un o bartneriaid y prosiect fynediad at yr wybodaeth rydych chi'n ei rhannu gyda ni, ond ni fydd yn cael ei wneud yn gyhoeddus. Dim ond ar gyfer y prosiect y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth, ac nid at unrhyw ddibenion eraill. Byddwn yn rhannu data dienw mewn adroddiadau ac erthyglau i gefnogi gwaith mudiadau gwirfoddol, ac yn cyhoeddi am berthnasedd gwirfoddoli mewn perthynas â gwella sgiliau.

Pwy ydym ni?

Rydym yn bedwar sefydliad mewn pedair gwlad ac yn gweithio gyda’n gilydd i ddarparu’r prosiect hwn sy’n cael ei ariannu gan Erasmus+. Partneriaid y prosiect yw: